Cymorth Cyfreithiol

Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth am drawsnewidiadau cyfreithiol i bobl ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru.

Cynnwys

Defnyddiwch y dolenni isod i fynd yn syth i’r adran rydych chi am ei darllen:

  1. Cyflwyniad

  2. Ewyllysiau a rheolau diffyg ewyllys (intestacy)

  3. Galluedd meddyliol, dirprwyaeth a Phŵer Atwrnai Parhaol

  4. Bancio

Cyflwyniad

Wrth i bobl ifanc nesáu at 16 ac 18 oed, byddan nhw’n gallu gwneud mwy o benderfyniadau yn eu bywydau. Gall person ifanc ddechrau rheoli cyfrifon banc, cronfeydd ymddiriedolaeth a’u gofal meddygol eu hunain. Ni fydd rhieni pobl ifanc ag anableddau dysgu yn gallu gwneud penderfyniadau drostyn nhw yn awtomatig. Mae’n hanfodol bod teuluoedd yn deall y ddeddfwriaeth a’r cymorth sydd ar gael yn ystod y cyfnod trosiannol hwn.

Cliciwch yma i fynd i frig y dudalen, neu’r botwm crwn wedi’i farcio “Brig” uchod i fynd yn ôl i frig y dudalen.

Ewyllysiau a Rheolau Diffyg Ewyllys

Efallai y bydd adeg pan na fyddwch o gwmpas i gefnogi eich person ifanc. Mae’n bwysig cyfathrebu a threfnu eich ystâd (yr hyn rydych yn berchen arno) yn y ffordd rydych chi’n dymuno. Os na chaiff ewyllys ei gwneud, gall eich ystâd gael ei rhoi i’ch teulu drwy’r rheolau diffyg ewyllys. Mae Citizens Advice wedi ysgrifennu erthygl sy’n egluro’r rheolau hyn – cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

I ddeall mwy am yr hyn sy’n rhan o wneud ewyllys, dilynwch y dolenni hyn:

Citizens advice

Money helper

LLun o ewyllys

Cliciwch yma i fynd i frig y dudalen, neu’r botwm crwn wedi’i farcio “Brig” uchod i fynd yn ôl i frig y dudalen.

Galluedd Meddyliol / Dirprwyon/ Pŵer Atwrnai Parhaol

Mae ffrindiau a theuluoedd yn rwydweithiau pwysig sy’n helpu unigolion ag anableddau dysgu i wneud penderfyniadau. Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn sail i’r dull y dylid ei ddefnyddio i gefnogi pobl ifanc.

Mae gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol dros Ragoriaeth (SCIE) wefan addysgiadol iawn am y Ddeddf, gan gynnwys fideos sy’n egluro’r egwyddorion allweddol. Gellir ymweld â’r wefan drwy glicio yma.

Mae Mind hefyd wedi creu gwefan ddefnyddiol sy’n mynd drwy’r meysydd allweddol sy’n ymwneud â’r Ddeddf Galluedd Meddyliol – cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Mae’n bwysig cydnabod y bydd llawer o bethau’n newid o ran gwneud penderfyniadau, yn enwedig pan fydd pobl ifanc yn troi’n 18 oed. Gall pobl ifanc ddechrau gwneud penderfyniadau annibynnol am eu hiechyd a’u haddysg o 16 oed. Fodd bynnag, pan fyddant yn 18 oed, ni fydd gan rieni hawl awtomatig bellach i wneud penderfyniadau ar eu rhan.

Y Gwahaniaeth rhwng Pŵer Atwrnai Parhaol a Dirprwyaeth

Mae rhai gwahaniaethau sylfaenol rhwng bod yn atwrnai a bod yn ddirprwy. Un o’r prif wahaniaethau yw bod yn rhaid i’r “rhoddwr” (y person sy’n rhoi’r awdurdod) feddu ar y galluedd meddyliol i roi pŵer i atwrnai (sef y person a fydd yn gweithredu ar ran rhywun arall).

Os asesir nad oes gan unigolyn ifanc y galluedd i wneud penderfyniadau penodol, ac os oes angen i’r teulu fod mewn safle gwneud penderfyniadau, bydd angen gwneud cais i’r Llys Gwarchod (Court of Protection) i ddod yn ddirprwy, neu wneud cais am benderfyniad untro. Mae penderfyniadau untro yn caniatáu i’r llys wneud penderfyniad penodol pan nad oes angen gwneud cyfres barhaus o benderfyniadau.

Dilynwch y dolenni isod am ragor o fanylion:

Penderfyniadau untro: https://www.gov.uk/oneoff-decision-personal-welfare

Dod yn ddirprwy: https://www.gov.uk/dod-ddirprwy

Cliciwch yma i fynd i frig y dudalen, neu’r botwm crwn wedi’i farcio “Brig” uchod i fynd yn ôl i frig y dudalen.

Bancio

Mae gan bobl ifanc ag anableddau yr hawl i reoli eu cyfrifon banc eu hunain os ydynt yn gallu gwneud hynny. Dylai pobl ag Anabledd Dysgu, a’r rhai sy’n eu cefnogi, gyfeirio at God Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005 i ddeall sut i gael mynediad at wasanaethau bancio yn y ffordd fwyaf addas.

Mae dogfen Llywodraeth y DU ar gael sy’n cyflwyno pob un o’r pynciau yn yr adran hon – cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Mae gan bob banc bolisi gwahanol wrth gefnogi pobl ag anableddau neu anghenion cymorth ychwanegol. Isod ceir rhai o’r prif fanciau yn y Deyrnas Unedig:

Banc Lloyds

HSBC

Santander

Barclays

Banc Brenhinol yr Alban

NatWest

Halifax

Cliciwch yma i fynd i frig y dudalen, neu’r botwm crwn wedi’i farcio “Brig” uchod i fynd yn ôl i frig y dudalen.

Rydym angen eich help


Rydym angen eich cefnogaeth i'n helpu i ddatblygu ein gofod gwybodaeth. Gofynnwn os ydych am ychwanegu unrhyw wybodaeth neu roi rhywfaint o adborth i ni, anfonwch neges atom.