Cymorth ariannol

Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth am drosglwyddiadau ariannol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru.

Cyflwyniad

Wrth i bobl ifanc ag anableddau dysgu drosglwyddo rhwng 15 ac 19 oed, gallent ddod yn gymwys i dderbyn budd-daliadau a chymorth yn eu hawl eu hunain. Bydd eu cymhwysedd yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, megis: a ydynt yn dal wedi cofrestru mewn addysg amser llawn, mewn cyflogaeth, neu a oes ganddynt swm penodol o arian yn eu henw.

Mae’n debygol y bydd pob person ifanc dros 18 oed yn cael asesiad ariannol yn ystod eu hadolygiad o anghenion gofal a chymorth. Pan fydd pobl ifanc yn gadael addysg, mae’n gyffredin i wasanaethau lleol asesu gallu unigolion i gyfrannu tuag at eu cymorth. Yng Nghymru, mae terfyn o £100 yr wythnos ar yr hyn y gall awdurdodau lleol ei godi ar gyfer gofal di-breswyl. Dilynwch y ddolen hon i ddarllen y Cod Ymarfer: https://www.gov.wales/charging-social-care

Mae’n bwysig nodi bod rhai gwasanaethau’n dod o dan ofal a chymorth lefel isel, cost isel, ac nid ydynt wedi’u cynnwys yn y terfyn uchaf o £100 yr wythnos.

Pan nad yw pobl ifanc bellach mewn addysg amser llawn, gellir eu hystyried yn “annibynnol”, a gall hyn eu gwneud yn gymwys i hawlio budd-daliadau yn eu hawl eu hunain. Mae’n bwysig i deuluoedd sy’n hawlio ar gyfer mwy nag un person yn y cartref fonitro a yw eu person ifanc yn cael ei ddosbarthu fel “dibynnol” ai peidio. Dylai pob teulu drafod eu dyfarniadau gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) gan fod pob cais yn unigryw.

Cliciwch yma i fynd i frig y dudalen, neu’r botwm crwn wedi’i farcio “Brig” uchod i fynd yn ôl i frig y dudalen.

Budd-daliadau wedi’u profi ar sail modd a budd-daliadau heb eu profi ar sail modd

Budd-daliadau wedi’u profi ar sail modd – mae’r rhain yn fudd-daliadau sy’n cael eu hasesu ar sail eich incwm a’ch cynilion, sef faint o arian sydd gennych ar gael. Mae graddfa symudol wrth dderbyn budd-daliadau wedi’u profi ar sail modd; po fwyaf o incwm a chynilion sydd gennych, y lleiaf o gymorth rydych yn debygol o’i gael. Cliciwch ar y ddolen yma i gael mwy o wybodaeth.

Budd-daliadau heb eu profi ar sail modd – nid yw’r budd-daliadau hyn yn ystyried faint o incwm rydych yn ei dderbyn na faint rydych wedi’i gynilo, yn yr un ffordd ag y mae budd-daliadau wedi’u profi ar sail modd yn ei wneud. Cliciwch ar y ddolen yma i gael mwy o wybodaeth.

siart o fudd-daliadau prawf modd a heb brawf modd

Cliciwch yma i fynd i frig y dudalen, neu’r botwm crwn wedi’i farcio “Brig” uchod i fynd yn ôl i frig y dudalen.

Apwyntïdd gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau

Pan fydd hawlwyr (y bobl sy’n derbyn cymorth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau) angen ychydig o gymorth ychwanegol i reoli eu harian, gallant wneud cais am apwyntïdd. Gall yr apwyntïdd wneud amrywiaeth o bethau, megis helpu i gyllidebu gyda’r hawlydd, derbyn yr arian i’w cyfrif, a defnydd­io’r arian er budd gorau’r hawlydd.

Nid yw statws apwyntïdd yn rhoi mynediad awtomatig i rywun at asedau eraill yr hawlydd y maent yn ei gefnogi. Mae apwyntïdd ond yn berthnasol o fewn y Adran Gwaith a Phensiynau. Cliciwch yma i weld ein hadran gyfreithiol i gael mwy o wybodaeth (link to legal section).

Mae’n bwysig nodi nad yw’r arian hwn yn cael ei ddyfarnu i’r apwyntïdd, ond i’r unigolyn sydd angen y cymorth. Os yw teulu neu ffrindiau’n cael eu hystyried fel apwyntïdd gan y person ifanc, bydd angen iddynt gysylltu â’r adran berthnasol i drafod y trefniadau. Dilynwch y ddolen yma.

Adrannau allweddol o fewn yr Adran Gwaith a Phensiynau

Disability Living Allowance (DLA) - https://www.gov.uk/lwfans-byw-ir-anabl-i-blant

Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)- https://www.gov.uk/pip

Credyd Cynhwysol - https://www.gov.uk/credyd-cynhwysol

Budd-dal Plant- https://www.gov.uk/budd-dal-plant

Lwfans Gofalwr - https://www.gov.uk/lwfans-gofalwr

Cliciwch yma i fynd i frig y dudalen, neu’r botwm crwn wedi’i farcio “Brig” uchod i fynd yn ôl i frig y dudalen.

Cynllunio gydol oes: rheoli cyfoeth ac ymddiriedolaethau

Efallai na fydd pobl sydd â lefel benodol o gyfoeth yn gymwys i dderbyn budd-daliadau wedi’u profi ar sail modd, a gallant gael eu disgwyl i dalu tuag at eu gofal. Yn bwysig, os bydd pobl ag anghenion cymorth yn etifeddu cyfoeth, gallant gael eu disgwyl i dalu am eu cymorth hyd nes y bydd eu cyfoeth yn gostwng o dan y trothwy a bennir.

Mae systemau ar gael sy’n caniatáu i bobl reoli asedau mewn ffyrdd penodol. Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael, ac fe’ch cynghorir bob amser i siarad â gweithwyr proffesiynol cymwys a chofrestredig i’ch cynorthwyo gyda’r materion hyn. Mae Cymdeithas y Gyfraith (The Law Society) yn darparu rhestr o gyfreithwyr cofrestredig ar eu gwefan – dilynwch y ddolen yma.

Gall ymddiriedolaethau fod yn ffordd i deuluoedd sicrhau bod eu pobl ifanc yn elwa ar eu hasedau, tra’n dal i dderbyn y lefel briodol o gymorth. Gall ymddiriedolaethau helpu pobl ifanc drwy gael pobl y maent yn ymddiried ynddynt (a elwir yn ymddiriedolwyr) i’w cefnogi i reoli’r asedau. Mae ymddiriedolaethau’n caniatáu i bobl sy’n derbyn cymorth ariannol drwy fudd-daliadau wedi’u profi ar sail modd barhau i dderbyn y cymorth hwn, hyd yn oed os yw’r asedau’n fwy na’r terfynau incwm neu gyfalaf.

I gael rhagor o wybodaeth am ymddiriedolaethau, dilynwch y ddolen hon i wefan Llywodraeth y DU yma. Mae Scope hefyd yn darparu gwefan wybodaeth ddefnyddiol sy’n esbonio’r ffordd orau o gefnogi pobl ifanc ag anabledd dysgu—dilynwch y ddolen drwy glicio yma.

Cliciwch yma i fynd i frig y dudalen, neu’r botwm crwn wedi’i farcio “Brig” uchod i fynd yn ôl i frig y dudalen.

Mynediad at Gredyd Cynhwysol tra mewn addysg

Gall teuluoedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol gynnwys elfen plentyn anabl yn eu cais. Unwaith y bydd person ifanc yn cyrraedd 31 Awst yn eu 19eg blwyddyn ac nad ydynt bellach mewn addysg, ni fydd y person ifanc yn cael ei gynnwys yn nghais y teulu mwyach.

Os oes angen asesiad gallu i weithio ar y person ifanc, bydd rhaid cwblhau hyn tra nad yw’r person ifanc yn rhan o’r system addysg.

Gall asesiad gallu i weithio gymryd sawl mis o’r cais cychwynnol. Gall hyn fod yn bwysig iawn gan y gall rhai pobl ifanc ddechrau addysg cyn derbyn canlyniad yr asesiad gallu i weithio. Felly, bydd angen i’r person ifanc sefydlu a oes ganddynt gyfyngiad ar weithio cyn dechrau addysg.

Mae possibilrwydd i dderbyn asesiad gallu cyfyngedig i weithio a gweithgareddau cysylltiedig â gwaith (LCWRA) yn 16 oed, yn aml pan fydd person ifanc yn trosglwyddo o’r ysgol i’r coleg. Gellir sefydlu hyn drwy ddechrau cais i’r system newydd o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA).

I ddod o hyd i ragor o wybodaeth, mae Contact wedi cyhoeddi erthygl ddefnyddiol sy’n gallu cefnogi’r broses hon – dilynwch y ddolen yma.

Cliciwch yma i fynd i frig y dudalen, neu’r botwm crwn wedi’i farcio “Brig” uchod i fynd yn ôl i frig y dudalen.