Mae Gogledd Cymru’n Uno ar gyfer Wythnos Anabledd Dysgu 2025

Pam Mae’n Bwysig

Nid ymarfer corff yn unig yw’r fenter hon. Mae’n ymwneud â chael eich gweld, cael eich clywed, a bod gyda’n gilydd. Mae’n ymwneud ag ymwybyddiaeth o anabledd dysgu ar draws Gogledd Cymru, herio stigma, a hyrwyddo cynhwysiant yn ein cymunedau.

Rydym yn gofyn:

Pa mor bell allwn ni fynd pan fyddwn ni’n symud gyda’n gilydd? Credwn mai’r ateb yw: Ymhellach nag y gallwn ni erioed fynd ar ben ein hunain.

Ymunwch â Ni

📍 Archwiliwch ddigwyddiadau ar draws Gogledd Cymru ar www.piws.co.uk
👣 Trefnwch eich taith gerdded, beicio neu her eich hun
📸 Rhannwch eich taith ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #BeicAHeic

P’un ai fel grŵp, sefydliad neu unigolyn rydych yn cymryd rhan – mae’ch camau yn cyfrif. Ymunwch â ni a helpwch wneud Wythnos Anabledd Dysgu yn un i’w chofio.

Gadewch i ni symud gyda’n gilydd. Gadewch i ni gael ein gweld. Gadewch i ni gael ein clywed.

🔖 Hashtags i’w Dilyn a’u Defnyddio:

#BeicAHeic | #WythnosAnableddDysgu | #SymudGyda’nGilydd | #LearningDisabilityWeek
#WytTinGweldFi | #NiYwYGymuned | #CymruCynhwysol | #CynhwysiantArWaith
#CynhwysiantYnBwysig | #DigwyddiadCymunedol | #CerddedRolioBeicio | #GwellGyda’nGilydd

Ym mis Mehefin eleni, rydym yn hynod falch o ymuno ag elusennau anabledd dysgu ar draws y chwe sir yng Ngogledd Cymru i nodi Wythnos Anabledd Dysgu 2025 (16–22 Mehefin) mewn ffordd wirioneddol ysbrydoledig a chydweithredol.

Am y tro cyntaf erioed, mae mudiad rhanbarthol yn cael ei gynnal i ddathlu gwelededd, cynhwysiant, a chryfder cymunedol – ac rydym yn falch o fod wrth galon y digwyddiad hwn.

🚶‍♀️🚴‍♂️ Beic a Heic – Her Beicio a Cherdded Gogledd Cymru

O dan faner #BeicAHeic, bydd sefydliadau, unigolion, teuluoedd a grwpiau cymunedol yn cymryd rhan yn Her Beicio a Cherdded Gogledd Cymru – wythnos gyfan o ddathlu symudiad, cysylltiad, a phwrpas cyffredin.

Boed hynny'n gerdded, yn gwthio cadair olwyn, yn heicio neu'n beicio – mae pob cam, pob milltir, a phob eiliad yn cyfrif. Ac eleni, bydd pob ymdrech hefyd yn cyfrannu at One Big Walk Mencap, gan helpu i dynnu sylw cenedlaethol at bobl ag anabledd dysgu.

Previous
Previous

🎉 Ein haf prysuraf eto sydd rownd y gornel! 🎉

Next
Next

Rydym Angen CHI! Helpwch ni drwy lenwi ein harolwg