Cyflwyniad
Yng Nghymru, mae gan ofal cymdeithasol ddarnau allweddol o ddeddfwriaeth sy’n dylanwadu’n fawr ar yr hyn allai fod ar gael i bobl ifanc a’u teuluoedd. Mae gan Lywodraeth Cymru dudalen ar eu gwefan yma sy’n amlygu’r rhain. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn gonglfaen i’r ffordd y mae gwasanaethau’n gweithredu ledled Cymru. Gellir dod o hyd i fersiwn hawdd ei darllen o’r Ddeddf yma, sy’n helpu i roi dealltwriaeth gliriach i bobl ifanc am y Ddeddf a’r hyn y mae ganddynt hawl iddo.
Gwybod pryd i ofyn am help
Mae angen cymorth ar bob un ohonom ar ryw adeg, ac mae gwybod pryd i ofyn yn hanfodol i gefnogi’r rhai rydym yn eu caru ac i ofalu am ein hunain. Mae’n hollol iawn gofyn am gymorth – cysylltwch â’n tîm trosianol i gael sgwrs am yr hyn allai fod o gymorth i chi.
Os ydych chi’n teimlo bod angen gofal a chymorth arnoch fel rhywun ag anabledd dysgu neu fel gofalwr, gallwch ofyn am asesiad. Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi creu dogfen hawdd ei darllen sy’n esbonio’r broses hon yma.
Mae’n bwysig cymryd yr amser i ystyried beth yw llesiant a beth mae’n ei olygu i chi. Creodd Llywodraeth Cymru ddatganiad llesiant sy’n amlygu’r 9 maes llesiant. Mae hyn yn ddefnyddiol i ddeall ble y gallai anghenion godi ac a oes angen cymorth arnoch.
Fersiwn i oedolion o’r datganiad: yma.
Fersiwn i bobl ifanc o’r datganiad: yma.
Sut i ofyn am gymorth
Ym mhennod 3 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, eglurir y gwahanol fathau o asesiadau y gall teuluoedd ofyn amdanynt. Mae Gyrfa Cymru wedi creu esboniad hawdd ei ddarllen yn benodol am asesiadau yma.
Os ydych yn penderfynu gofyn am asesiad, cysylltwch â’r tîm priodol yn eich awdurdod lleol. Mae Autism UK yn cynnig tudalen ddefnyddiol am y broses, gan gynnwys templed y gall teuluoedd ei ddefnyddio i wneud cais am asesiad. Dysgwch fwy yma. Mae cysylltu â’r gwasanaethau trwy e-bost yn ffordd dda o gadw cofnod o’r sgyrsiau rydych wedi’u cael.
Manylion cyswllt yma:
Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn
Fel y nodwyd ar wefan Autism UK ac yn Neddf Llesiant, dylai pawb fod â hawl i asesiad. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod pawb yn cael cymorth yn awtomatig.
Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais, dylai’r awdurdod lleol gysylltu â chi i drefnu asesiad, neu gallant wrthod yr asesiad – mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol gofnodi unrhyw wrthodiad o gynnig asesiad o anghenion.
Mae elfennau’r asesiad i’w cael yn Atodiad 1 ym Mhennod 3 o’r cod ymarfer o fewn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yma. Gall casgliad yr asesiad fod yn un o’r canlynol:
Nid oes unrhyw anghenion i’w diwallu;
Mae angen asesiad mwy cynhwysfawr, a all gynnwys asesiadau mwy arbenigol;
Gellir diwallu anghenion drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth;
Gellir diwallu anghenion drwy ddarparu gwasanaethau ataliol;
Gellir diwallu anghenion, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, gan yr unigolyn ei hun (gyda neu heb gymorth gan eraill);
Gall materion eraill gyfrannu at gyflawni’r canlyniadau personol neu ddiwallu’r anghenion mewn ffordd arall;
Dim ond drwy gynllun gofal a chymorth, neu gynllun cymorth, y gellir diwallu’r anghenion.
Taliadau Uniongyrchol
O ganlyniad anghenion gofal a chymorth a aseswyd, efallai y cewch yr opsiwn i gyflogi cynorthwyydd personol i’ch cefnogi. Gallai hyn fod yn gynorthwyydd addysgu rhan-amser neu oedolyn dibynadwy. Nid oes rhaid defnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer cefnogaeth 1 i 1 yn unig; gellir eu defnyddio i brynu eitemau corfforol megis beiciau neu wasanaeth tacsi.
Yn bwysig, os ydych yn defnyddio taliadau uniongyrchol i gyflogi rhywun fel cynorthwyydd personol i chi neu i berson ifanc, chi fydd yn gyfrifol am ddod o hyd i’r cynorthwyydd personol hwnnw.
Dylid defnyddio taliadau uniongyrchol i fynd i’r afael â’r angen y cawsant eu dyfarnu i’w gefnogi. Mae North Wales Together wedi cynhyrchu adnoddau gwych y gallwch ddod o hyd iddynt yma – sgrolio i lawr i’w gweld.