Back to All Events

Sioe Dalent Cyswllt Conwy

Rydym mor gyffrous i gyhoeddi y bydd tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Theatr Colwyn o ddydd Llun y 25ain o Fedi!

Ymunwch â ni am noson o ganu, arwyddo, dawnsio, a llawer mwy!

Ond nid dyna'r cyfan! Bydd y noson yn cael ei chychwyn gan ein Hwb Theatr anhygoel gyda pherfformiad o “The Magic of Panto Land”!

Bydd gennym hefyd raffl ar y noson gyda rhai gwobrau ANHYGOEL! Cadwch lygad ar ein tudalen Facebook am fanylion am hyn yn fuan!

Ymunwch â ni ar Ddydd Gwener y 24ain o Dachwedd. Drysau'n agor am 6:30yp a'r sioe yn dechrau am 7yp.

Mae’r tocynnau’n £12.50 (Ynghyd â ffi archebu’r swyddfa docynnau) ac i archebu bydd angen i chi alw heibio neu gysylltu â swyddfa docynnau Theatr Colwyn. Gallwch eu ffonio ar 01492 556 677.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu eisiau rhagor o wybodaeth e-bostiwch

Non@conwy-connect.org.uk

Previous
Previous
23 November

Celf yn y Tywyllwch

Next
Next
25 November

Cinio Nadolig Grŵp cyfeillgarwch